Nid oes dim erioed a welwyd, Nid oes dim a deimlodd llaw, Dim a glywyd sôn am dano O eitha'r de i'r dwyrain draw, Yn ddigonol Wneyd fy enaid llesg yn llawn. O! na ddoi'r amseroedd bellach I mi gael mwynhau o hyd Pethau leinw fy nymuniad, Pethau nad ynt yn y byd; Ni ddaw'r ddaear Fawr a minnau byth yn un. Mae fy enaid yn ehedeg Ar adenydd ysgafn ffydd, Ac yn syllu trwy'r eangder Uchel, maith, at bethau fydd; 'Nawr mi welaf Wlad o hedd yn agoshau. Rhwng cymylau duon, tywyll, Gwelaf draw yr hyfryd wlad; Mae fy ffydd yn llefain allan - Dacw o'r diwedd dŷ fy Nhad: Digon, digon! Mi anghofia'm gwae a'm poen. Y mae anghrediniaeth gadarn, Pan bo'r goleu'n myn'd yn wan, Yna'n haeru yn fy wyneb Rhwystru t'wyllwch fi i'r lan: Nid yw'r golofn Dân yn mhell yn nghanol nos. O! gwasgerwch, dew gymylau, I'r addewid rhoddwch le; Nid i'r ddaear hon y'm ganwyd, Tragwyddoldeb yw fy lle: 'Nol tywyllwch, Cod o'r diwedd foreu wawr.William Williams 1717-91
Tonau [878747]: gwelir: Mae fy enaid am ehedeg O gwasgerwch dew gym(m)ylau O na ddôi'r amseroedd bellach Rhwng cymylau duon tywyll |
There is nothing that ever was seen, There is nothing that a hand ever felt, Nothing the mention of which was heard From the extreme south to yonder east, Sufficient To make my feeble soul full. O that the times would now come For me to get to enjoy always Things that fill my desire, Things that are not in the world; The large earth and I Shall never become one. My soul wants to fly On the light wings of faith, And is staring through the high, Vast wideness to things that shall be; Now I see A land of peace approaching. Between black, dark clouds, I see yonder the delightful land, My faith is crying out - Over there, at last, my Father's house: Sufficient, sufficient! I shall forget my woe and my pain. Firm unbelief is, Whenever the light becomes weak, Then claiming in my face The darkness will frustrate me utterly: The pillar of fire is Not far off in the middle of the night. O, scatter ye, thick clouds, To the promise give ye place; Not for this earth was I born, Eternity is my place: After darkness, Rise at last, morning dawn.tr. 2018 Richard B Gillion |
|